|
Croeso i Wefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Benfro.
Oherwydd cyfyngiadau ariannol, mae sawl tudalen ar y wefan hon
i’w gweld yn Saesneg yn unig. Fodd bynnag, gallwch
lawrlwytho pethau yn Gymraeg gan gynnwys: newyddlenni bob
chwarter, rhan 1 y cynlluniau gweithredu ynghylch rhywogaethau a
chynefinoedd ac un neu ddwy o’r taflenni gwybodaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am fioamrywiaeth
yn Gymraeg gallwch fynd at wefannau Cyngor Sir Penfro neu Awdurdod Parc
Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Mae’r Dudalen Hafan wedi’i chyfieithu isod.
Casgliad o sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda’r
nod o warchod hybu a gwella bioamrywiaeth yn Sir Benfro yw Partneriaeth
Bioamrywiaeth Sir Benfro.
Beth yw bioamrywiaeth?
Bywyd ar y ddaear, yn llythrennol, yw bioamrywiaeth. Y mae a
wnelo â’r holl blanhigion ac anifeiliaid byw (yn cynnwys y
ddynoliaeth) eu hamrywiaeth genetig a’r ecosystemau y maent hwy
(a ninnau) yn dibynnu arnynt. Mae bioamrywiaeth ym mhobman:
mewn gerddi, caeau, cloddiau, mynyddoedd, clogwyni ac yn y
môr. Ansawdd bywyd yw bioamrywiaeth.
Pam wnaethom ni lunio Partneriaeth Bioamrywiaeth?
Mae’r bartneriaeth yn cynnwys cyfuniad o nifer o sefydliadau yn
Sir Benfro; ar y cyd maent wedi ysgrifennu Cynllun Gweithredu
Bioamrywiaeth Lleol (CGBLl) available to download from this website.
Nod CGBLl Sir Benfro yn fras yw cydlynu camau gweithredu presennol, a
rhoi cychwyn ar a chydlynu camau gweithredu newydd er mwyn gwarchod a
hybu bioamrywiaeth yn Sir Benfro, gan gymryd blaenoriaethau lleol a
chenedlaethol i ystyriaeth.
Er mwyn ysgrifennu a gweithredu’r CGBLl, mae sawl sefydliad yn
gweithio ar y cyd trwy gyfrwng Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir
Benfro. Rydym yn adeiladu ar y partneriaethau a’r mentrau
sy’n bodoli eisoes ac yn datblygu rhwydweithiau a mecanweithiau
newydd i gyflawni’r CGBLl.
Bwriad y CGBLl yw bod yn ddogfen i gynorthwyo penderfyniadau sy’n
cael eu gwneud gan unrhyw reolwyr tir, er mwyn sicrhau y defnyddir dull
cydlynedig o ymdrin â gwarchod y bywyd gwyllt arbennig sydd
gennym yn yr ardal. Bydd yn adeiladu ar bartneriaethau a mentrau
sy’n bodoli eisoes.
Tra byddwn yn canolbwyntio, yn anochel, ar ein rhywogaethau prinnaf
– neu ar gynefinoedd y mae dynodiadau rhyngwladol neu
genedlaethol ar gyfer cadwraeth natur yn gofalu amdanynt – rhaid
i ni beidio ag anghofio’r cynefinoedd a’r rhywogaethau mwy
cyffredin, a’r potensial sydd gyda thir ffermio a mannau agored
trefol i gyfrannu at fioamrywiaeth. Mae ein blodau, cloddiau
a’n hadar gerddi mwy cyfarwydd hefyd yn gallu dweud wrthym pa mor
iach, yn gyffredinol, yw cefn gwlad; ac os yw eu niferoedd yn gostwng,
yna byddant yn seinio rhybudd ynghylch bioamrywiaeth.
Pwy yw aelodau’r Bartneriaeth Bioamrywiaeth?
Mae’r partneriaid yn perthyn i amryw sectorau, ac yn eu plith mae
llywodraeth leol, cyrff statudol, sefydliadau y tu fas i’r
llywodraeth fel elusennau bywyd gwyllt a grwpiau cefnogi sydd â
diddordeb (ffermio, cymuned, tirfeddianwyr ac addysg) yn ogystal
â busnesau.
Credydau
Cafodd yr holl ffotograffau, ac eithrio’r rhai a ddefnyddiwyd
mewn erthyglau, eu defnyddio â chaniatâd Frank
Whittle. Cliciwch yma i weld ei orielau
Noddir y wefan gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
|